Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
'Creu'r Diwylliant Cywir' - urddas a pharch yn y Cynulliad.
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi bod yn archwilio cod ymddygiad y Cynulliad Cenedlaethol a’r broses o sefydlu polisi Urddas a Pharch newydd. Ar ôl ystyried hynt ei waith ac yng ngoleuni'r dystiolaeth a gafwyd, mae'r Pwyllgor wedi cytuno bod angen iddo ddeall yn well sut y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â materion yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol.
O ganlyniad, mae'r Pwyllgor wedi cytuno i benodi cynghorydd arbenigol annibynnol i’w helpu i ymdrin â’r materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn a sefydlu grŵp cyfeirio i gynnig her gadarn i gynigion y Pwyllgor wrth iddynt ddatblygu.
Y rôl
Cynghorydd arbenigol
Bydd y cynghorydd arbenigol yn gweithio gydag ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor i ddadansoddi'r materion a godwyd, ac i roi cyngor awdurdodol i'r Pwyllgor ynghylch yr Ymchwiliad i Greu’r Diwylliant Cywir, sy'n ystyried sut y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â materion yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol.
Bydd angen i ymgeiswyr fod â gwybodaeth arbenigol am y maes a’r gallu i gynnig cyngor clir, cryno a diduedd i wleidyddion, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru:
Y grŵp cyfeirio
Gofynnir i aelodau'r grŵp cyfeirio gynnig her adeiladol i'r Pwyllgor ynghylch y dystiolaeth a roddir i’r Pwyllgor ac ynghylch unrhyw gynigion sy'n deillio o'r Ymchwiliad i Greu’r Diwylliant Cywir.
Addysg a sgiliau
Hoffai'r Pwyllgor glywed gan bobl sydd â gwybodaeth arbenigol am un neu ragor o’r canlynol:
· aflonyddu rhywiol neu fathau eraill o aflonyddu;
· sicrhau newidiadau diwylliannol
· profiad o'r amgylchedd gwleidyddol.
Dylai ymgeiswyr fod mewn sefyllfa dda i gynghori'r Pwyllgor ynghylch sut i sicrhau ei fod yn cael yr amrywiaeth orau o dystiolaeth am y materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad.
Dylai’r cynghorydd arbenigol, yn benodol:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen yr ymchwiliad .
Ymrwymiad o ran amser
Mae'n debygol y bydd rôl y cynghorydd arbenigol yn dechrau fis Ebrill 2018 ac yn parhau am oddeutu pedwar mis.
Mae'n annhebygol y bydd yn rhaid ichi weithio mwy na 10 diwrnod at ei gilydd, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gofynnir ichi weithio mwy na dau ddiwrnod gwaith mewn unrhyw wythnos benodol.
Cewch eich talu fesul diwrnod ar sail y gwaith a wnewch.
Mae'n debygol y bydd aelodaeth o’r grŵp cyfeirio yn dechrau fis Mai 2018 ac yn parhau am oddeutu tri mis, ac mae'n annhebygol y bydd yn rhaid ichi weithio mwy na 5 diwrnod at ei gilydd. Byddwn yn ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol.
I fynegi diddordeb yn rôl y cynghorydd arbenigol neu mewn bod yn aelod o'r grŵp cyfeirio, anfonwch CV, llythyr eglurhaol a datganiad o fuddiannau perthnasol at SeneddSafonau@cynulliad.cymru erbyn 24 Ebrill 2018.
Dylai'r llythyr eglurhaol nodi:
Dylai'r datganiad o fuddiannau gynnwys unrhyw beth y gallai person rhesymol ystyried y gallai ddylanwadu ar y cyngor a roddwch i'r Pwyllgor.
Mae enghreifftiau'n cynnwys buddiannau ariannol perthnasol, bod yn aelod o grŵp ymgyrchu berthnasol neu blaid wleidyddol neu’r ffaith bod aelod agos o'r teulu’n ymwneud â’r maes arbenigol hwn.